Mae'r gwasanaeth hwn yn addas ar gyfer pobl sy'n gwisgo'u gwallt yn naturiol gyrliog gan amlaf. Caiff y cyrls eu torri mewn cyflwr sych ac yna eu golchi a'u steilio. Bydd apwyntiad yn para rhwng 11/2 a 2 awr fel arfer - yn dibynnu ar hyd y gwallt, ei drwch a phatrwm y cyrl.
Sut i baratoi ar gyfer eich apwyntiad
Cyn eich apwyntiad, cofiwch gyrraedd gyda'ch gwallt wedi'i olchi'n ffres, heb fod yn glymau i gyd ac wedi’i steilio'n naturiol gyrliog. Gallwch steilio'ch gwallt gyda'r lleiafswm posibl o gynhyrchion cyn dod.
OS GWELWCH YN DDA, PEIDIWCH â chodi’ch gwallt na'i glymu'n ôl pan fyddwch yn cyrraedd.
Polisi Canslo
Os oes angen i chi ganslo neu aildrefnu eich apwyntiad, gofynnwn yn garedig i chi wneud hynny 24 awr cyn amser eich apwyntiad. Os na chaiff apwyntiad ei ganslo 24 awr cyn yr amser a drefnwyd neu os na fyddwch yn cyrraedd, codir ffi canslo hwyr neu ‘dim cyrraedd’ arnoch am 50% neu gost lawn y gwasanaeth.