Helo, f’enw i yw Richard James, a fi yw sylfaenydd a pherchennog salon Cyrl Cymru yn Aberystwyth, y salon gyntaf yng Nghymru sy’n arbenigo ar drin gwallt cyrliog.
Mae gen i dros 20 mlynedd o brofiad ym maes trin gwallt ac rwy’ wedi gweithio mewn salonau yng Nghaerfyrddin, Abertawe a Bryste cyn ymgartrefu yn Aberystwyth.
Uchafbwynt fy ngyrfa hyd yma oedd ymddangos ar raglen deledu S4C ‘Prynhawn da’ lle bues i’n gyfrifol am sesiwn harddu, a hynny dros gyfnod o chwe rhaglen.
Drwy gydol fy ngyrfa rwy’ wedi mynychu cyrsiau hyfforddi rheolaidd gydag enwogion y byd trin gwallt - pobl fel Vidal Sassoon, Toni a Guy, L’Oréal, Wella, Trevor Sorbie, Mazzella a Palmer London a Gianni Scumaci.
Wrth i mi ddechrau cynnig gwasanaeth gwallt cyrliog yn Aberystwyth dechreuodd fy nghleientiaid ddweud wrtha’ i sut y bydden nhw a'u ffrindiau yn teithio i Birmingham neu Lundain i gael torri eu gwalltiau cyrliog unwaith y flwyddyn.
Dyna pryd y penderfynais ar yr enw ‘Cyrl Cymru’ er mwyn gadael i bobl Cymru wybod bod arbenigwr ar wallt cyrliog yn Aberystwyth, ac nad oedd angen iddyn nhw felly deithio mor bell.
Yn ystod y cyfnod clo ym mis Ionawr 2021 fe wnes i’r penderfyniad mwyaf yn fy ngyrfa fel triniwr gwallt trwy fynd ati i agor fy salon fy hun!
Ers agor fy salon, mae’r llyfr apwyntiadau wedi bod yn orlawn, gyda phobl yn fodlon teithio yma o bob rhan o Gymru a rhai o Loegr hefyd.