Awgrymiadau ar sut i Steilio

Draganfod beth rydyn ni’n ei wneud

Dull Cyrl Cymru

Dyma fy nghanllaw arferol ar gyfer trin gwallt cyrliog er mwyn i chi gael y gorau o'ch cyrls.

Rwy'n argymell dechrau drwy ddefnyddio cynhyrchion sy'n rhydd o sylffad a silicon.

  1. Siampŵo/Gloywi - Gwlychwch eich gwallt nes ei fod yn socian wlyb. Rhowch sulphate free shampoo ar groen eich pen gan dylino'r gwreiddiau er mwyn cael gwared ar unrhyw groniad. Yna sgrynsiwch hyd ganol y gwallt a blaen y cudynnau â’r siampŵ er mwyn glanhau'r cyrlau’n ysgafn, ac yna rinsiwch eich gwallt i gael gwared ar y siampŵ.
  2. Cyflyru er mwyn Datod Clymau - Defnyddiwch lond llaw hael o gyflyrydd a’i daenu ar hyd canol eich gwallt ac ar flaen y cudynnau gan osgoi'r gwreiddiau. Yna, datodwch glymau eich gwallt â'ch bysedd neu â chrib dannedd llydan. Sylwch, os oes unrhyw adrannau sych yn eich gwallt bryd hyn, arllwyswch fwy o ddŵr ar y rhan honno ynghyd â dogn o gyflyrydd.
  3. ‘Squish to Condish’ er mwyn Lleithio’n Ddwys - Bryd hyn, gwnewch yn siŵr bod eich gwallt yn socian wlyb, trowch eich pen o’r naill ochr i’r llall, gan sgrynsio o flaen y cudynnau i groen y pen, a hynny dros eich pen i gyd. Dylai'r dŵr fod yn llaethog ei liw; y syniad yw trwytho'ch gwallt â dŵr a chyflyrydd er mwyn chwyddo’r cyrls o'r tu mewn allan.
  4. Selio gyda Dŵr Oer a Rinsio mewn Dŵr Claear - rinsiwch y cyflyrydd yn ofalus o’ch gwallt gyda llif o ddŵr claear. Yn dibynnu ar hydradiad eich gwallt, gallwch adael rhywfaint o'r cyflyrydd yn y gwallt.
  5. Lleithio gyda Hufen Cyrl - Eto, yn dibynnu ar lefel sychder eich gwallt, gallwch ddefnyddio hufen cyrl i ychwanegu ychydig mwy o leithder. Byddwch yn defnyddio hwn yn yr un ffordd ag y byddwch yn gosod y cyflyrydd - trwy droi eich pen o’r naill ochr i’r llall a thaenu’r hufen cyrl o flaen y cydynnau i ran ganol hyd eich gwallt. Os yw'r gwallt wedi sychu, gallwch ddefnyddio chwistrell ddŵr i wlychu'r gwallt unwaith eto. Defnyddiwch y dechneg ‘squish to condish’ i greu patrwm y cyrl.
  6. Selio â gel - Ar ôl tylino’r lleithder i mewn i’ch gwallt, byddwch am ei selio â gel. Defnyddiwch ddogn hael o gel, gan ddefnyddio’r dechneg ‘squish to condish’. Tylinwch y gel o flaen y cudynnau hyd at ganol eich gwallt, yna rhedwch eich bysedd neu grib dannedd llydan drwy’r gwallt er mwyn gwasgaru’r gel. Sgrynsiwch o flaen y cudynnau hyd at groen y pen gan greu eich patrwm cyrl naturiol.
  7. Sychu - Bryd hyn gallwch naill ai adael i'ch gwallt sychu'n naturiol neu ei sychu gyda sychdaenwr (diffuser). Mae'n bwysig nodi na ddylech gyffwrdd â'ch cyrls nes bod eich gwallt yn hollol sych, gan fod hyn yn creu crychau (frizz). Gan ddefnyddio tywel micro ffibr neu grys-t, sychwch unrhyw ddŵr yn ysgafn ac yna sychdaenwch fesul adran nes bod cast gel wedi'i ffurfio. Gallwch sychdaenu’n rhannol a gadael i’r gwallt sychu yn yr aer am weddill y dydd.
  8. Sgrynsio’r Cast Gel Oddi Yno - Unwaith y bydd eich gwallt wedi sychu'n llwyr, bydd y gel yn ffurfio cast caled. Er mwyn ei feddalu, bydd angen sgrynsio o flaen y cyrls hyd at groen y pen a hynny ar draws y pen - gyda neu heb olew, eich dewis chi - a ffluwchiwch y gwreiddiau er mwyn rhoi rhywfaint o sbonc i’ch cyrls.

Dilynwch fi ar fy nhudalen Facebook ac Instagram i gael mwy o awgrymiadau ar sut i steilio.

cyCymraeg